Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Hydref 2019

Amser: 09.03 - 10.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5651


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd)

Michelle Brown AC

Neil McEvoy AC

Jack Sargeant AC

Leanne Wood AC

Tystion:

Iwan Prys Jones, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Stephen Jones, Cyngor Sir y Fflint

Tom Rippeth, Deisebydd

Carolyn Thomas, Cyngor Sir y Fflint

Mike Webb, Deisebydd

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Ross Davies (Dirprwy Glerc)

Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gasglu tystiolaeth ychwanegol arni gan elusennau, cynrychiolwyr busnesau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y newidiadau y mae'n bwriadu eu cyflwyno drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus, yn enwedig ynghylch masnachfreinio a phwerau i awdurdodau lleol redeg gwasanaethau bysiau, a'r amserlen a gynlluniwyd ar gyfer cyflwyno'r Bil.

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-900 Ymchwilio i’r ffordd y mae rhieni’n cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth gychwynnol ar y ddeiseb tan y cyfarfod nesaf er mwyn galluogi Aelodau i drafod gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y deisebydd yn llawn.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am safbwyntiau’r deisebwyr o ran yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig cyn trafod a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

</AI6>

<AI7>

2.5   P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd)

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ymateb i awgrym y deisebydd y dylai tadau newydd gael, neu gael cynnig, asesiad o’u hanghenion iechyd meddwl a chymorth fel rhan o wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.

</AI7>

<AI8>

2.6   P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am ei hymateb i'r cynnig y dylai fod hawl i’r cyhoedd a'r wasg recordio ac adrodd ar gyfarfodydd cyngor, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan gynghorau tref a chymuned.

</AI8>

<AI9>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI9>

<AI10>

3.1   P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i aros i Vertex Pharmaceuticals gyflwyno tystiolaeth yn gysylltiedig ag Orkambi i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, y mae'r Pwyllgor yn deall ei fod ar fin digwydd, cyn gofyn am ragor o wybodaeth.

 

</AI10>

<AI11>

3.2   P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i:

 

</AI11>

<AI12>

3.3   P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ei hymateb i'r pryderon a fynegwyd [?]  gan y deisebydd ynghylch yr angen i sicrhau bod plant yn gyfarwydd â fformat y profion a'r cwestiynau, yn sgil cyflwyno asesiadau personol ar-lein yn raddol.

</AI12>

<AI13>

4       Sesiwn dystiolaeth 1: P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

O dan Reol Sefydlog 17.24A gwnaeth Jack Sargeant AC ddatganiad ei fod wedi cefnogi'r Llwybr Coch yn y gorffennol.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tom Rippeth, ar ran y deisebwyr, a Mike Webb, a oedd yn cynrychioli Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

 

</AI13>

<AI14>

5       Sesiwn dystiolaeth 2: P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint.

 

Cytunodd Cyngor Sir y Fflint i roi copi o adroddiad arolygu diweddaraf Pont Sir y Fflint i'r Pwyllgor.

</AI14>

<AI15>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

</AI15>

<AI16>

7       Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

Trafododd y Pwyllgor y sesiynau tystiolaeth blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at:

 

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>